Gallwch gynnal yr arolwg yn eich gardd, ar eich fferm neu pan rydych yn mynd allan am dro yn ddyddiol.
Gallwch wneud hyn ar unrhyw amser rhwng mis Ebrill a mis Medi tra bydd gwahanol flodau yn eu blodau.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw lawrlwytho taflen yr arolwg a chwilio am y blodau. Dywedwch wrthym ble welsoch chi’r blodyn i ddechrau drwy ysgrifennu cod y cynefin yn y bocs nesaf at y blodyn.
Tynnwch luniau o’r blodau gyda’ch ffôn, eich tabled neu eich camera os gwelwch yn dda.
Os gallwch chi sganio neu dynnu llun eich taflenni wedi’u llenwi, anfonwch nhw gyda’ch lluniau i Swyddfa Prosiect Dolau Dyfi os gwelwch yn dda Richard.jones@pontcymru.org