Mae PONT yn gallu cynnig gwasanaeth ymgynghorol i sefydliadau ac unigolion ledled Cymru, i helpu gyda rheolaeth briodol ar bori safleoedd, er lles bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ac i oresgyn cyfyngiadau sy’n atal darparu pori priodol.
Mae gan PONT brofiad o weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau pori lleol ac i ganfod ffynonellau cyllido i ddatblygu prosiectau pori.
Gall PONT gynnig y canlynol:
- Cyngor ar y bridiau priodol a’r mathau o anifeiliaid pori ar gyfer rheoli gwahanol gynefinoedd.
- Asesiadau risg pori i ganfod cyfyngiadau ac atebion ar safleoedd.
- Ysgrifennu adroddiadau a llunio argymhellion rheoli os oes angen pori.
- Canfod stoc priodol ar gyfer rheoli safleoedd.
- Datblygu trwyddedau pori a threfniadau pori.
- Cyngor ar baratoi a llunio cynlluniau rheoli.
- Ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill cyn cyflwyno pori ar safleoedd nad oeddent yn cael eu pori o’r blaen.
- Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu prosiectau ar safleoedd, ac ar raddfa leol a rhanbarthol.
- Canfod ffynonellau cyllido i alluogi darparu atebion pori.
- Paratoi a chyflwyno ceisiadau cyllido, gan gynnwys hwyluso cyfarfodydd a chyflwyniadau i’r cyhoedd neu bartneriaid.
- Datblygu’r gwaith o farchnata’r cynnyrch o ardaloedd sy’n cael eu pori gan stoc ac sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt.
- Cyngor ar ddatrys problemau rhywogaethau ymledol, fel rhedyn, Molinia, eithin neu brysgwydd, lle mae pori’n rhan hanfodol o’r ateb.
- Cefnogi gyda bodloni gofynion cynlluniau amaeth-amgylcheddol fel Glastir.
Dyma rai enghreifftiau o sut mae PONT wedi gallu gweithio gyda sefydliadau i sicrhau canlyniadau llwyddiannus:
- Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn
- Adfer Corgors Penaran
- Tir Comin Coity Wallia – Pen-y-bont ar Ogwr
- Cynllun Pori Gogledd Ddwyrain Cymru