Pwy yw’r staff?

Jan Sherry – Uwch Reolwr PONT (Ecoleg)

Mae Jan yn arwain ar gyngor am gynefinoedd a bioamrywiaeth yn PONT. Hefyd mae gan Jan gyfrifoldebau Adnoddau Dynol a rheoli prosiectau a chontractau a hi yw’r Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy ‘Dolau Dyfi’.

Arferai Jan weithio i Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ac, yn ddiweddarach, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am 15 mlynedd fel Ecolegydd Rhostiroedd ac yn ddiweddarach yn gofalu am gynefinoedd ucheldir ehangach. Ar ôl gadael CNC daeth i’w rôl yn PONT a hefyd sefydlodd ei hun fel ymgynghorydd annibynnol.

Mae Jan yn arbenigwr cydnabyddedig ar reoli rhostiroedd ac ucheldiroedd Cymru ac yn y rôl honno mae’n arwain gweithgarwch amrywiol PONT. Ymhlith yr esiamplau mae cynhyrchu llawlyfr rheoli creigafal ar gyfer CNC ac arolwg, gwaith cynghori ar gyfer Prosiect Cysylltiadau Elan yng Nghanolbarth Cymru, a chefnogi amrywiaeth o brosiectau eraill i ddatblygu a gweithredu eu prosiectau. Mae Jan wedi ymwneud â datblygu Cynllun Talu Am Ganlyniadau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Benrhyn Llŷn ac mae wedi darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol a thechnegol i’r ffermwyr cysylltiedig.

Jan Sherry

Julia Korn – Uwch Reolwr PONT (Busnes)

Mae Julia yn arwain ar Reolaeth ariannol, codi arian a digwyddiadau. Mae ganddi hefyd gyfrifoldebau Adnoddau Dynol a rheoli prosiectau a chontractau.

Cyn ymuno â PONT, roedd Julia yn gweithio i CCGC a CNC yn ddiweddarach, ers 2001. Cefnogodd y gwaith o sefydlu a chyflwyno Partneriaethau’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yng Nghymru, ac esblygiad Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Yn 2010, daeth yn Uwch Swyddog Polisi Bioamrywiaeth CCGC. Hefyd yn CCGC/CNC sefydlodd a rheolodd Julia y gronfa Ecosystemau Cadarn rhwng 2011 a 2015.

Mae Julia yn defnyddio ei gwybodaeth a’i phrofiad o waith partneriaeth a’i rhwydweithiau helaeth i drefnu a chynnal digwyddiadau fel cynadleddau PONT yn 2017 a 2018 a’r gweithdy Rheoli Creigafal yn 2019. Hefyd mae Julia yn arwain ar hybu gwaith PONT ac mae’n chwarae rôl weithredol mewn chwilio am gydweithredu a chyfleoedd newydd er mwyn cefnogi a dylanwadu ar yr amrywiaeth o sefydliadau a phrosiectau ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau fel y Gymdeithas Da Byw Bwydo ar Borfa, Butterfly Conservation, Plantlife, awdurdodau lleol amrywiol a CNC.

Julia Korn

Beth Davies – Swyddog Pori Cadwraeth

Yn siarad Cymraeg yn rhugl, mae Beth wedi graddio yn ddiweddar mewn Rheolaeth Cadwraeth Amgylcheddol ar ôl astudio amaethyddiaeth yn flaenorol. Wedi’i magu ar fferm da byw cymysg yn ucheldir De Cymru, mae hi wedi treulio’r un mlynedd ar ddeg ddiwethaf yn gweithio ochr yn ochr â’i rhieni i sicrhau dealltwriaeth gadarn o arferion amaethyddol, hwsmonaeth anifeiliaid, a sgiliau rheoli tir.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau anllywodraethol a chwmni ymgynghori ecolegol, lle mae hi wedi cael profiad ymarferol amhrisiadwy mewn cadwraeth, rheolaeth amgylcheddol, ac ecoleg.

Mae hyn wedi rhoi gwybodaeth iddi am sut mae sefydliadau amrywiol yn sefydlu prosiectau ar y cyd â’i gilydd gan feithrin rhwydweithiau cadarn.

Mae Beth yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a hyrwyddo gwaith PONT.