Cefndir Dolydd Delfryn
Roedd y dolydd “llannerch coetir” hyn yn goetir yn perthyn i fferm Pen y Bryn ar un adeg.
Mae’n rhaid bod y 4.5 o erwau wedi cael eu clirio o’r coetir cyfagos ar ryw adeg, er nad ydym yn gwybod i ba ddiben. Efallai eu bod wedi cael eu haredig yn ysgafn yn ystod y rhyfeloedd ar gyfer cnydau – tatws efallai – ond mae presenoldeb ffyngau capiau cwyr yn awgrymu eu bod yn annhebygol o fod wedi’u “gwella” gyda’r defnydd o nitradau a chemegau eraill.
Maent wedi’u dynodi’n laswelltir lled-asid UB4, sy’n wahanol o ran dynodiad i gaeau cyfagos iawn hyd yn oed.
Am nifer o flynyddoedd hyd at 2017 roedd y dolydd yn cael eu pori gan ddefaid, sy’n torri’r glaswellt yn rhy fyr ac yn bwyta’r rhan fwyaf o rywogaethau o flodau, ac felly ychydig iawn o fflora oedd i’w weld.
Fodd bynnag, mae’r pridd sydd heb ei darfu i raddau helaeth yn dal cronfa hadau hynafol o flodau’r coetir a thrwy gael gwared ar y defaid a rheoli’r pori gan ferlod yn ofalus (mae gwefusau symudol merlod yn osgoi pori blodau), mae’r ddaear yn cael ei deffro’n ddigonol i ddod â’r hadau hyn i’r wyneb ar gyfer egino.
Mae’n nodedig bod eithin yn ffynnu ar linellau o ddaear y mae tarfu wedi bod arnynt er mwyn gosod polion llinell drydan 33KV uwchben a thrwy osod tanc dŵr cyfleustod dŵr wrth gefn.
Mae eithin yn ailymddangos yn rhai o’r ardaloedd yn y coetir cyfagos sy’n cael eu rheoli ar gyfer aildyfiant naturiol, ac mae’n rhaid bod yr hadau hyn wedi bod yn segur yn y pridd ers blynyddoedd lawer.

Aethom ati i gael gwared ar rai o’r ardaloedd mwyaf dyfal o frwyn pabwyr, ac mae’r merlod yn rheoli’r gweddill drwy fwyta’r egin newydd. Nid oes bron unrhyw frwyn pabwyr ar ôl ar y dolydd yn awr. Rhedyn a mieri fu’r rhywogaethau a gymerodd fwyaf o amser i’w rheoli ac mae cael gwared ar y rhain yn lleihau’r gystadleuaeth am olau a gofod i ganiatáu i’r blodau gynyddu bob blwyddyn.

Rydym wedi gweld rhywogaethau newydd yn ymddangos bob blwyddyn ers 2018 ac mae pori parhaus gan ferlod yn cadw’r gwyndwn yn ddigon byr i flodau ymddangos heb gystadleuaeth. Hefyd mae’r pori tynn ond dethol hwn yn annog ffyngau fel capiau cwyr, sy’n arwydd o ran rhywogaethau o bridd heb ei wella, ac mae llawer o rywogaethau newydd o ffyngau wedi ymddangos dros y blynyddoedd hefyd.
Llinell Amser Delfryn
Fe wnaethom adael i’r caeau fod yn fraenar yn 2018 a chyflwyno pori gan ferlod gan ddau gob Cymreig Adran A – Twt a Non – yn 2018. Maent yn greaduriaid gwydn heb fod angen deiet gyfoethog, ac felly mae angen merlod mwy weithiau i’w helpu pan fydd maint y borfa yn mynd ychydig yn ormod iddyn nhw!
Mae pob blwyddyn ers hynny wedi darparu gwahanol rywogaethau o flodau, ac yn amlach. Er enghraifft, nid oedd gennym bron ddim clychau’r gog yn y caeau yn ystod y flwyddyn gyntaf, ond bellach mae ardaloedd ehangach ohonynt i’w gweld yn y caeau yn y gwanwyn.
Yn ogystal â’r cynnydd mewn planhigion sy’n blodeuo, rydym yn gweld mwy a mwy o rywogaethau o ffyngau yn ymddangos, sy’n wirioneddol gyffrous. Gwelwyd capiau cwyr yn ystod yr hydref cyntaf ar ôl pori, sy’n rhywogaeth dangosydd allweddol o borfa heb ei gwella.
Rhan anoddaf y gwaith rheoli fu lleihau’r rhedyn a’r mieri. Rydyn ni’n tynnu, yn pladurio ac yn strimio gwahanol ardaloedd o redyn; mae’n ymddangos mai tynnu yw’r ffurf fwyaf effeithiol ar reolaeth, ond mae’n waith llafurus iawn.
Mae’r rhedyn ungoes wedi lleihau’n sylweddol o ran uchder ac amlder, ond rydym yn credu y bydd yn cymryd tair neu bedair blynedd arall i’w ddileu o’r caeau, gan wneud cyfanswm o saith i wyth mlynedd o waith. Fodd bynnag, mae wedi bod yn wirioneddol werth chweil o ran creu gofod a golau ar gyfer gwahanol rywogaethau o blanhigion sy’n blodeuo.
Rydym yn ceisio cadw rheolaeth ar yr ysgall a’r dail tafol a thynnu dipyn ar y creulys er mwyn lleihau’r risg o wenwyno’r merlod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r creulys ar y rhannau gwylltach o’n tir i annog gwyfynod teigr y benfelen.

Mae’r rhedyn sy’n cael ei dynnu yn cael ei osod mewn pentyrrau, mae rhywfaint wedi cael ei ddefnyddio fel tomwellt a chompost gyda lefel isel o faethynnau, ac mae rhywfaint wedi’i adael fel cynefin ar gyfer nadroedd defaid a nadroedd y gwair, sydd i’w gweld weithiau ar ddiwrnod poeth.
Cawsom gyllid gan gynllun Dolau Dyfi i osod 135 metr o ffensys newydd. Fe wnaethom ail-lunio ffiniau’r hen ffensys ychydig i’w gwneud yn haws rheoli’r pori ac i ganiatáu mynediad ar gyfer rheoli’r coed lle’r ydym yn rheoli ein coetiroedd PAWS (planhigfa ar goetir hynafol) ar gyfer aildyfiant llydanddail naturiol i ddisodli’r llarwydd a’r sbriws yn araf.
Llwyddwyd i newid yr hen ffens rhyngom ni a phorfa ddefaid ein fferm gyfagos ac roedden nhw’n falch iawn o hynny hefyd. Fe wnaeth cynllun Dolau Dyfi ein cefnogi hefyd i osod cafn dŵr newydd sy’n llenwi’n awtomatig ar gyfer y merlod. Mae hyn wedi bod yn fendith, gan arbed llawer o waith wrth i ni orfod darparu dŵr ddwywaith y dydd, a sicrhau nad yw’r merlod byth yn mynd yn sychedig.
Mae’r cafn newydd, cryf yn anoddach ei gicio drosodd na’r hen fwcedi hefyd, sef hoff gêm Twt a Non, ac mae hyn yn welliant mawr hefyd!
Rydym yn edrych ymlaen at weld yr holl rywogaethau newydd yn ffynnu yn y dolydd, a pheidio â gorfod rheoli’r rhedyn a’r mieri cymaint, ond er gwaethaf yr holl waith mae wedi bod yn bleser pur adfer cynefin cynyddol brin a gwerthfawr.
Yn anffodus nid oes hawl mynediad cyhoeddus i’r tir, a byddai hyn yn anodd gyda’r da byw yn newid, ond mae rhai o’r dolydd i’w gweld o Lwybr Arfordir Cymru.