Gweithgareddau Lles Teuluoedd

Fel rhan o brosiect Dolau Dyfi, rydyn ni wedi creu rhai gweithgareddau i’n helpu i ddarganfod ardal Dolau Dyfi a mwynhau’r awyr agored ar yr un pryd!

Cwblhewch y gweithgareddau gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau a’u hanfon gyda’ch lluniau at ein Swyddog Prosiect.


Upcoming Online Events – Dance and Meadow Art

Join us for some wonderful online events taking place as part of the Dolau Dyfi Project!

ann thomas wildlife artist talk for dolau dyfi project

Online dance session by Cai Tomos, dance artist and art psychotherapist. 

Monday, 22 March 2021 at 13:00

An adult session that focuses on movement, breathing and contact by exploring structured and free movement to music. The session brings people together to explore and maintain contact with the body and through the body with the support of others. These sessions are for people with little experience of improvised movement and dancing skills. This session is suitable for those who are limited in their ability to move, have problems with pain, or recover from a stroke. It also suits more active people. To book please contact rose@housemartinmedia.com. Spaces limited to 10 people

Sesiwn i oedolion sy’n canolbwyntio ar symud, anadlu a chysylltiad trwy archwilio symudiadau strwythuredig a rhydd i gerddoriaeth.
Mae’r sesiwn yn dod â phobl ynghyd i archwilio a meithrin cysylltiad â’r corff a thrwy’r corff gyda chefnogaeth pobl eraill.
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pobl heb lawer o brofiad o sgiliau symud a dawnsio byrfyfyr.
Mae’r sesiwn hon yn addas i’r rhai sy’n gyfyngedig yn eu gallu i symud, sydd â phroblemau gyda phoen, neu’n gwella ar ôl cael strôc. Mae hefyd yn addas i bobl mwy egnïol.

Inspired by Meadows – an online talk by Wildlife Artist Ann Thomas

Tuesday, 23 March 2021 at 19:00 UTC

As long as I can remember, I have enjoyed walking and drawing nature outdoors. My favourite haunts in my native Dolgellau area are the flower rich hay meadows which lie within walking distance of the town. I often sit for hours sketching flowers and visiting insects whilst at the same time having a quick look through binoculars in an attempt to identify passing birds and butterflies.My habit of sketching in the field have resulted in the opportunity to illustrate a flower book for a World Heritage Centre in the Vega Archipelago, Norway, sharing art tips with the islanders and a Bala exhibition of work linking the Great Hungarian Plain and Wales.The ‘zoom’ presentation gives me the opportunity to share with you the way in which hay meadow field sketches have resulted in watercolour paintings, linoleum prints and stitch projects. An Aberystwyth 1974 Zoology degree, a long time ago, gives me some understanding of habitats and I will share what I have learnt about some flowers. A printmaking course in Upper New York State, USA gave me more confidence in my artwork and an understanding of the way in which I could use my field drawings.To conclude, the presentation will provide the opportunity to chat, see examples of work including the Vega book and adventures I’ve enjoyed whilst sketching in the field.To receive the joining link, please contact rose@housemartinmedia.com

Ysbrydolwyd gan ddolau – sgwrs ar lein yng nghwmni yr artist bywyd gwyllt, Ann Thomas.Hyd yn oed fel plentyn, ‘rwy’n cofio bod wrth fy modd yn crwydro a manteisio ar bob cyfle i gofnodi byd natur gyda phapur a phensil yn y maes. Fy holl lefydd yw’r caeau gwair traddodiadol o fewn pellter cerdded i’m cartref yn Nolgellau. Yn aml byddaf yn eistedd am oriau yn creu brasluniau o flodau a phryfetach ac ar yr un pryd ceisio adnabod, drwy sbienddrych, adar a glöynod byw chwim a ddaw heibio.Mae’r arferiad o gofnodi yn y maes wedi ysgogi’r cyfle i ysgrifennu ac arlunio llyfr blodau i Ganolfan Treftadaeth ein Byd, Ynysoedd Vega, Norwy, rhannu gwybodaeth celf gain gyda’r ynyswyr a chysylltu Cymru â gwastadedd mawr Hwngari mewn arddangosfa yn y Bala.Mae’r cyflwyniad ‘zoom’ yn gyfle i mi rannu â chwi wybodaeth am greu peintiadau dyfrliw, printiau leino a gwaith pwytho wedi seilio ar fy mrasluniau. Graddiais o Brifysgol Aberystwyth mewn Swoleg yn 1974 ac felly mae gennyf beth wybodaeth am gynefin a phlanigion y gallaf rannu â chwi. Cefais fwy o hyder yn fy ngwaith celf drwy ddilyn cwrs argraffu dwy flynedd yn Nhalaith Efrog Newydd a deall ar yr un pryd sut i ddefnyddio fy mrasluniau maes.I gloi, bydd y cyflwyniad yn gyfle i sgwrsio, gweld enghreifftiau o’m gwaith celf, Llyfr Vega a’r anturiaethau i mi fwynhau tra’n arlunio yn y maes.To receive the joining link, please contact rose@housemartinmedia.com

Talybont Loop long leaflet

Dolau Dyfi Walking Guide 4: Talybont Woods

This walk starts from Talybont on the ‘Borth to Devil’s Bridge’ trail, joins the ‘Wales Coast Path’ and then loops back to Talybont through the woods. If using the bus, the walk is a bit more straightforward and less strenuous if you start at Talybont and finish in Taliesin (there are regular buses between the villages).

Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 3: Dolen Cefn Erglodd

Taith gerdded ddiddorol i fyny ac ar hyd y bryn i’r De o’r A487. Mae dringfa serth drwy goetir derw ar y dechrau ac wedyn rhiw serth i lawr yn ôl. Ar ôl cyrraedd ymyl yr esgair, mae’r llwybr yn fwy gwastad ac agored gyda golygfeydd eang dros Dalybont, Taliesin ac aber afon Dyfi.


Borth Leri walk leaflet

Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 2: BORTH, DOLEN LERI

Taith gerdded bleserus, fflat a hawdd ei dilyn gyda golygfeydd gwefreiddiol dros aber afon Dyfi a’r môr.

Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 1; Bedd Taliesin

Arolwg Pryfed Peillio

Gallwch gynnal yr arolwg yn eich gardd, ar eich fferm neu pan rydych yn mynd allan am dro yn ddyddiol.

Dylech ddewis diwrnod cynnes, heulog os yn bosib, unrhyw bryd rhwng mis Ebrill a mis Awst. Lawrlwythwch daflen yr arolwg a llenwi’r manylion.

Wedyn dewiswch ddarn o laswelltir, gwrych neu ymyl glaswellt gyda blodau a dewis un math o flodyn h.y. blodyn menyn, ysgall, llygad y dydd a chyfrif faint o bryfed sy’n ymweld â’r blodau mewn cyfnod o 5 munud wedi’i amseru.

Ceisiwch gyfrif y pryfed yn ôl math e.e. gwenyn, glöynnod byw, chwilod ac ati. Gallwch lawrlwytho taflen adnabod o’r wefan ganlynol.

Tynnwch luniau o’r blodau a’r pryfed gyda’ch ffôn, eich tabled neu eich camera os gwelwch yn dda.

Os gallwch chi sganio neu dynnu llun eich taflenni wedi’u llenwi, anfonwch nhw gyda’ch lluniau i Swyddfa Prosiect Dolau Dyfi os gwelwch yn dda Richard.jones@pontcymru.org


Arolwg Adnabod Blodau Gwyllt

Gallwch gynnal yr arolwg yn eich gardd, ar eich fferm neu pan rydych yn mynd allan am dro yn ddyddiol.

Gallwch wneud hyn ar unrhyw amser rhwng mis Ebrill a mis Medi tra bydd gwahanol flodau yn eu blodau.

Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw lawrlwytho taflen yr arolwg a chwilio am y blodau. Dywedwch wrthym ble welsoch chi’r blodyn i ddechrau drwy ysgrifennu cod y cynefin yn y bocs nesaf at y blodyn.

Tynnwch luniau o’r blodau gyda’ch ffôn, eich tabled neu eich camera os gwelwch yn dda.
Os gallwch chi sganio neu dynnu llun eich taflenni wedi’u llenwi, anfonwch nhw gyda’ch lluniau i Swyddfa Prosiect Dolau Dyfi os gwelwch yn dda Richard.jones@pontcymru.org