Map y Prosiect

Red Clover


Y BORDER BACH – OWEN SHIERS

Fel rhan o brosiect Dolau Dyfi, comisiynodd Ennyn gan gan y caneuwr gwerin Owen Shiers.

Mae Owen wedi gosod cerdd gan Crwys i gerddoriaeth gan greu can hynod o brydferth. Mae'r gerdd yn disgrifio gardd fach perlysiol oedd gan ei fam ac yn cynnwys nifer o gyfeiriadau ar wahanol blanhigion oedd y werin yn defnyddio er mwyn gwella ei hunain.

.

Gydag ymyl troetffordd gul
A rannai’r ardd yn ddwy,
‘Roedd gan fy mam ei border bach
O flodau perta’r plwy.

Gwreiddyn bach gan hwn a hon
Yn awr ac yn y man,
Fel yna’n ddigon syml y daeth
Yr Eden fach i’w rhan.

A, rywfodd, byddai lwc bob tro,
Ni wn i ddim paham,
Ond taerai ‘nhad na fethodd dim
A blannodd llaw fy mam.

Blodau syml pobol dlawd
Oeddynt, bron bob un,
A’r llysiau gwyrthiol berchid am
Eu lles yn fwy na’u llun.

Dacw nhw: y lili fach,
Mint a theim a mwsg,
Y safri fach a’r lafant pêr,
A llwyn o focs ynghwsg;

Dwy neu dair brlallen ffel,
A daffodil, bid siŵr,
A’r cyfan yn y border bach
Yng ngofal rhyw ‘hen ŵr’.

Dyna nhw’r gwerinaidd lu,
Heb un yn gwadu’i ach,
A gwelais wenyn gerddi’r plas
Ym mlodau’r border bach.

O bellter byd ‘rwy’n dod o hyd
I’w gweld dan haul a gwlith,
A briw i’m bron fu cael pwy ddydd
Heb gennad yn eu plith.

Hen estron gwyllt o ‘ddant y llew’,
A dirmyg lond ei wên.
Sut gwyddai’r hen doseddwr hy
Fod Mam yn mynd yn hen?

Owen Shires

“Mae natur yn ysbrydoli fy ngherddoriath. Mae'n rhywle rwy'n dianc i gael heddwch. Rhywle sy'n cynnig ei hun i'r dychymyg. Rhywle arallfydol sy'n wahanol i fywyd pob dydd.”

Owen Shiers
Owen Shires

Herb Robert


= Fflim / Film

= Sŵn / Sound

= Dro / Walk

= Blodau Gwyllt / Wildflowers

Yn ystod y pandemig, fe wnaeth cwmni celfyddydol ENNYN CIC & prosiect Dolau Dyfi PONT gydweithio gyda ysgolion a grwpiau cymunedol ym Miosffer Dyfi ar gyfres o weithgareddau a digwyddiadau, i gyfuno cerddoriaeth, barddoniaeth, celf gweledol, adrodd straeon, symud therapiwtig a teithiau cerdded, gyda ffocws a’r flodau gwyllt a’u lle mewn traddodiadau a diwylliant Cymru. 

Penllanw y prosiect yw’r llyfr ‘Tair Tro Fer ym Miosffer Dyfi‘, sy’n cynnwys straeon lleol, sylwadau, a darluniau o flodau gwyllt. Mae’r map digidol uchod yn cysylltu i elfennau gwahanol y prosiect, yn cynnwys: 

Ffilmiau o ddigwyddiad cymunedol ‘Byd y blodau gwyllt’; dwy dro gyda ysgolion lleol; Margaret Jones Llanbrynmair yn trafod defnydd traddodiadol planhigion yn ogystal a straeon lleol.

Sain o chwedlau lleol Dinas Mawddwy gan y disgyblion; Owen Shiers yn perfformio ‘Y Border Bach’ (cerdd gan Crwys) i gerddoriaeth wedi ei osod gan Owen ar gyfer prosiect Dolau Dyfi.

Tair tro fer ym Miosffer Dyfi

Darluniau o flodau gwyllt gan bobl ifanc ac artistiaid lleol. 

Hoffem ddiolch i bawb o bob cenhedlaeth am rannu eu harbenigedd yn hael, eu hangerdd am natur, eu gwybodaeth, a’u straeon lleol am draddodiadau a bywyd gwyllt.

Dolau Dyfi logo
Ennyn Logo
PONT logo
EAF logo