Gair am Prosiect Dolau Dyfi

Mae glaswelltir lled-naturiol tir isel wedi dioddef colledion dramatig a amcangyfrifir fel 97% yn y DU ers 1930 a dim ond darnau ar wasgar o ddolydd tir isel, rhostir a chorsydd sydd ar ôl.

Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd â gwaith i wyrdroi’r dirywiad yn lleol ac felly’n gwella ac yn adfer cynefinoedd o flodau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau, ac o fudd hefyd i bryfed peillio, adar tir amaethyddol a rhywogaethau eraill, gan greu cyfleoedd newydd i weithio gyda byd natur.

Mae rheoli cadwraeth ymarferol ar laswelltiroedd, mawndir a ffridd wedi’i gytuno eisoes a’i gostio fel rhan o’r prosiect gyda mwy na 30 o berchnogion tir lleol.

Mae’r gwaith y bydd y prosiect yn buddsoddi ynddo’n cynnwys rheoli prysgwydd, rhedyn ac eithin, ffensys a seilwaith arall ar gyfer pori, yn ogystal â help ymarferol i fonitro effaith y gwaith sy’n cael ei wneud. Bydd Grŵp Dolau Dyfi yn cael ei sefydlu i gefnogi perchnogion tir i reoli eu cynefinoedd sy’n blodeuo yn y tymor hir.

Hefyd bydd y prosiect yn buddsoddi mewn gweithgarwch sy’n helpu pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau manteision byd natur a gweithio gyda’u hamgylchedd naturiol a dysgu amdano.

Gan ddefnyddio clychlys dail eiddew fel symbol nodedig o fywyd gwyllt sy’n arbennig yn yr ardal, bydd Dolau Dyfi yn ymgymryd â gwaith gyda grwpiau, sefydliadau ac unigolion lleol i ddatblygu syniadau ar gyfer gwell mynediad a gweithgareddau celf.

Bydd y prosiect hefyd yn buddsoddi mewn rhaglen o deithiau tywys a gweithgareddau gwirfoddolwyr, er budd iechyd a lles, drwy gydol cyfnod y prosiect, sy’n weithredol tan ddiwedd mis Mehefin 2022.


Pwy sy’n ymwneud â’r prosiect?

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Pori Natur a Threftadaeth (PONT). Cwmni cyfyngedig trwy warant bychan, nid-er-elw, yw PONT sy’n gweithio i ddarparu pori cadwraeth yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am PONT, ewch i www.pontcymru.org

Bydd PONT yn recriwtio Swyddog Prosiect a Lleoliad Myfyriwr a fydd yn gweithio o’r Plas ym Machynlleth.

Cefnogir darparu’r Prosiect gan Grŵp Llywio Dolau Dyfi. Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan Ecodyfi ac mae’r aelodau’n cynrychioli gwahanol agweddau ar y prosiect a byddant yn ein helpu i weithio gyda gwahanol sectorau, cymunedau ac unigolion.

Ein nod ni yw cynnwys cymaint o bobl â phosib mewn datblygu syniadau ar gyfer y prosiect ac ymuno â’n gweithgareddau ni. Os oes gan unrhyw un syniadau am sut gallwn ni wneud hyn, cysylltwch (edrychwch ar y manylion cyswllt ar waelod y dudalen). Hefyd byddwn yn creu tudalen prosiect Dolau Dyfi ar wefan PONT ac adnoddau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y prosiect. Mae croeso i unrhyw syniadau.

Sut mae’r prosiect yn cael ei gyllido?

Mae’r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 – Cynllun Rheoli Cynaliadwy sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r RSPB yn cyfrannu hefyd.


Beth fydd y prosiect yn ei wneud?

Rheoli tir a Chadwraeth Natur

Bydd y prosiect yn ymgymryd â’r gweithgarwch y cytunwyd arno yn y cam ymgeisio, gan gynnwys ffensys, giatiau newydd, clirio prysgwydd a rhedyn a helpu i sefydlu pori cyfeillgar i fyd natur. Gall rhywfaint o’r gwaith amrywio o’r cais gwreiddiol oherwydd bydd pethau wedi newid yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Nod yr holl weithgarwch rheoli tir yw gwella neu adfer cynefinoedd o flodau.

Yn ystod y prosiect, bydd y Swyddog Prosiect yn helpu i sefydlu grŵp dolau i sicrhau bod perchnogion tir yn gallu rhannu profiadau a chefnogi ei gilydd yn y tymor hir.

Mynediad

Bydd y prosiect yn cytuno ar raglen waith er mwyn gwella llwybrau a chyfleoedd mynediad yn ardal y prosiect.

Seiliwyd rhestr o gynigion yn y cais ar ymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd gan PONT a Grŵp Llwybr Marchogaeth Ceredigion. Bydd y rhestr yma’n cael ei defnyddio i ysgogi trafodaeth ehangach gyda phartïon sydd â diddordeb lle bydd cyfle i ychwanegu syniadau eraill. Bydd y rhestr yn cael ei blaenoriaethu a’r gwaith yn cael ei wneud rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mai 2022.

Mae’n debygol y bydd y gwaith yn cael ei weithredu fesul cam gydag ail gyfle i roi gwybod ble yn union fydd gwelliannau’n digwydd yn nes ymlaen yn 2020.

Iechyd a Lles

Ceir 3 elfen i’r gwaith iechyd a lles ac mae cyswllt agos rhyngddo a’r thema mynediad uchod:

  • Bydd y prosiect yn gweithio gyda phrosiect Iechyd Awyr Agored Biosffer Dyfi sy’n cael ei gyflwyno gan Ecodyfi, Coed Lleol ac eraill er mwyn darparu cyfleoedd i bobl ymuno â theithiau tywys a gweithgareddau eraill i wella iechyd. Bydd hyn yn cael ei gysylltu â’r cynllun presgripsiwn cymdeithasol newydd sy’n cael ei ddatblygu yn yr ardal a bydd nifer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael cefnogaeth i wneud hynny drwy gael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu neu ddarparwr iechyd arall.
  • Bydd y prosiect yn llunio deunyddiau dwyieithog i helpu pobl i fynd am dro eu hunain, naill ai drwy frandio penodol ar lwybrau neu drwy ganllawiau papur neu ar-lein, gan ddibynnu ar beth sydd fwyaf defnydiol i ddefnyddwyr lleol. Bydd y llwybrau hyn yn cael eu cynllunio gan feddwl am wahanol alluoedd a byddant yn nodi lefel yr her a’r pellter yn glir.
  • Yn olaf, bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli dan oruchwyliaeth mewn gwaith cadwraeth ymarferol, rheoli llwybrau troed neu weithgarwch arall, gan ddibynnu ar y galw.

Y Celfyddydau

Mae gan y prosiect gyllideb fechan ar gyfer cynnal gweithgareddau celfyddydol. Y syniad yw cynnal gweithdai a digwyddiadau’n seiliedig ar greu deunydd sy’n berthnasol i ffermio, byd natur a thema blodau gwyllt y prosiect.

Bydd y gweithgarwch hwn yn darparu cyfleoedd amrywiol i bobl gymryd rhan. Hefyd byddwn yn gweithio tuag at greu prif ddarn neu ddarnau ar gyfer y prosiect a fydd yn ffocws nifer o ddigwyddiadau.

Ymhlith y syniadau sy’n cael eu trafod mae arddangosfa ar gyfer Gorymdaith Lanternau a mynd i lawer o sioeau amaethyddol lleol, gan orffen yn un o’r sioeau mwy e.e. yn Aberystwyth.

Hefyd bydd y prosiect yn creu ffilm i ddangos pa mor arbennig yw’r ardal a gall pobl leol ei defnyddio mewn ysgolion, digwyddiadau cymunedol ac ati.


Ble fydd y prosiect yn gweithio?

Mae Prosiect Dolau Dyfi yn ymestyn ar draws ardal Biosffer Dyfi o’r môr yn Aberdyfi i droed Mynyddoedd y Cambrian ac mae’n cynnwys rhannau o Geredigion, Powys, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae llawer o’r gweithgarwch cadwraeth natur wedi’i gytuno yn y cam ymgeisio ac mae’r perchnogion tir wedi cofrestru eisoes. Mae gwaith arall, fel gwelliannau mynediad, taith dywys, gweithgarwch celfyddydau a chyfleoedd i wirfoddolwyr, angen ei gytuno o hyd. Bydd y prosiect yn cynnwys Aberystwyth a Machynlleth a hefyd trefi llai a phentrefi yn ardal y prosiect.

Am faint mae’r prosiect yn weithredol?s the project running for?

Dyddiad gorffen y prosiect yw 30ain Mehefin 2022. Y syniad yw y bydd rhai manteision yn parhau y tu hwnt i’r dyddiad hwn.

Gall hyn ddigwydd drwy gynllun presgripsiwn cymdeithasol, cynllun mabwysiadu llwybr a Grŵp Dolau Dyfi, a hefyd oherwydd gwelliannau seilwaith fel bod pori cyfeillgar i fyd natur yn gallu parhau ar ddolau blodau gwyllt newydd.


Sut mae’r prosiect yn ymwneud â phrosiectau eraill yn yr ardal?

Mae PONT yn gweithio gydag aelodau’r grŵp llywio i gael gwybod cymaint â phosib am y gweithgarwch presennol. Y nod fydd gweithio gyda phrosiectau, cynlluniau a mentrau eraill heb ddyblygu gwasanaethau na gweithgareddau.

Un esiampl yw y byddwn yn datblygu rhaglen o deithiau tywys. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud hyn mewn cysylltiad â phrosiect Iechyd Awyr Agored Biosffer Dyfi.

Bydd ein staff yn gweithio yn swyddfeydd Ecodyfi yn Y Plas a bydd hyn yn hwyluso cydweithredu ag eraill. Os oes gennych chi unrhyw syniadau, cofiwch gysylltu.

Sut gallaf gymryd rhan?

Byddwn yn cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau eraill i ddod â phobl at ei gilydd i roi sylw i agweddau penodol ar y prosiect ac i wrando ar bryderon a syniadau pobl leol. Un esiampl fydd y gweithgareddau celf, ond nid yw thema gyffredinol ein dull o weithredu wedi’i chytuno eto.

Cadwch lygad am gyfarfodydd, digwyddiadau, gweithdai ac ati sy’n cael eu cynnal gan gynllun Dolau Dyfi a chysylltwch os byddech yn hoffi dod iddynt.

Hefyd byddwn yn cynnal teithiau tywys a chyfleoedd i wirfoddolwyr. Eto, os hoffech chi gymryd rhan, rhowch wybod i ni.

Gyda phwy allaf i gysylltu?

Cyswllt Dros Dro Staff PONT ym Mangor

Julia Korn neu Jan Sherry

07421 994860 / 4861

Ar ôl i ni recriwtio staff, byddwn yn cyhoeddi eu manylion oherwydd byddant yn fwy lleol i’r prosiect. Hefyd byddwn yn sefydlu cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y prosiect.