Paul Culyer

Rwyf wedi gweithio ym maes cadwraeth natur ers 1991 ar ôl cymryd tair blynedd allan i astudio am radd mewn Gwyddor yr Amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn ystod y 22 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio i Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, bellach fel rhan o’r tîm rheoli ar gyfer y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Roeddwn yn gweithio i ddechrau fel gweithiwr stad ond bellach, am y saith mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn Uwch Reolwr Gwarchodfeydd ar gyfer Sir Benfro. Cyn hyn, treuliais bedair blynedd ar ddeg yn ymgymryd â’r rôl hon yng Ngheredigion.

Mae rheoli pori wedi bod yn rhan sylweddol o’r gwaith yn y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol rwyf wedi’u rheoli, gan gynnwys ffermwyr cyfagos yn aml, sy’n darparu’r da byw.

Rwyf wedi ymwneud â PONT ers ei sefydlu fel aelod o’r Pwyllgor Cynghori.