Mike Alexander – Chair

Fi yw un o’r aelodau a sylfaenodd PONT. Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio’n rhan amser fel cynghorydd cynllunio cadwraeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ac yn gadeirydd pwyllgor cynghori ar gadwraeth Ynysoedd Sir Benfro. Treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn y GNG ar Ynys Sgomer yn gweithio fel Warden am 10 mlynedd. Ar ôl gadael Sgomer, symudais at y Cyngor Cadwraeth Natur fel rheolwr 5 Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) yng Ngogledd Cymru. Yn fuan ar ôl sefydlu CCGC, cefais fy mhenodi’n gyfrifol am gydlynu’r gwaith o reoli’r gyfres o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Rwyf wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli ar gyfer cadwraeth natur ac mae hyn yn cynnwys profiad rhyngwladol sylweddol yn amrywio o Costa Rica i Uganda ac Estonia yn Sbaen. Rwyf yn arwain ar ddatblygu canllawiau cynllunio rheolaeth Ramsar. Mae fy ngwerslyfr ‘Management Planning for Nature Conservation’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2008, yn cael ei gydnabod bellach fel testun safonol ar gynllunio cadwraeth.

Rwyf yn Ddarlithydd Anrhydeddus yn Ysgol yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Mike Alexander - chair