Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr gyda Chymdeithas Merlod a Chobiau Cymru ers 2009 gyda seibiant gorfodol o 3 blynedd. Am fy ngwaith gyda’r Gymdeithas hon, rwyf wedi cael fy ngwneud yn aelod oes Anrhydeddus am fy ngwasanaethau clodwiw fel Ysgrifennydd Mynydd ar gyfer y Gymdeithas Gwella Merlod Mynydd ers 1988. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr a Golygydd cylchgrawn Merlod Mynydd Cymru. Rwyf yn hynod ymwybodol o fy rhwymedigaethau fel Cyfarwyddwr a’r Egwyddorion cysylltiedig. Mae gennyf ddealltwriaeth dda o gyfraith Elusennau.