Amanda Evans

Rwyf yn gweithio i Gyngor Sir Gaerfyrddin fel Swyddog Prosiectau Cadwraeth ar brosiect cynefin ar raddfa tirwedd yn rhoi sylw i löyn byw Brith y Gors. Mae fy swydd i’n cynnwys gweithio gyda pherchnogion tir lleol, perchnogion da byw a chontractwyr er mwyn rheoli’r cynefin mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn y dyfodol. Yn ddiweddar rwyf wedi ymwneud â llosgi glaswelltir dan reolaeth mewn partneriaeth â MWWFRS ac mae gennyf ddiddordeb ym manteision hyn i adfer cynefin sydd wedi’i esgeuluso a lleihau’r risgiau o dân. Cyn hyn, rwyf wedi rhedeg busnes fferm gyda fy ngŵr a gweithio i’r Ymddiriedolaeth ar gyfer Adar Gwyllt a Gwlybdiroedd, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, DEFRA, Canolfan Da Byw Caerfyrddin a Thrwyddedu Anifeiliaid gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin.