Mae cyfnewidfa wair PONT yn gyfrwng i roi’r bobl sydd â gwair neu dail mewn cysylltiad â’r rhai sydd eu heisiau.
System cofrestru defnyddwyr i bobl gynnwys eu manylion
Mae’r dolydd hyn yn cynnwys cyfoeth o flodau, glaswelltau a hesg ac yn gartref i amrywiaeth o bryfed a thrychfilod. Oherwydd nad ydynt wedi cael eu hailhadu gyda chymysgeddau o laswellt amaethyddol, na’u trin gyda phlaleiddiaid a gwrtaith anorganig, mae eu cynhyrchiant yn isel ac mae’r perchnogion yn cael trafferth gwerthu’r gwair a gwneud unrhyw elw o’u dolydd.
Fodd bynnag, mae perchnogion ceffylau’n chwilio mwy a mwy am wair gyda lefel isel o siwgr ac uchel o ffibr i’w brynu, ond efallai nad oes ganddynt y cysylltiadau priodol i ddod o hyd i’r cyflenwad yma.
Hefyd efallai y bydd angen chwalu ychydig o dail fferm, yn hytrach na gwrteithiau artiffisial, ar ddolydd gwair.