Mae’r dudalen hon yn esbonio polisi cwcis pontcymru.org, mudiad dielw yng Nghymru sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Cyfarwyddwyr, ac mae’n rhoi gwybodaeth am y cwcis sy’n cael eu defnyddio yn y wefan hon.
Beth yw cwci?
Cwci yw darn bach o destun y mae gwefan yn gofyn i’ch porwr ei storio. Mae gan bob cwci ddyddiad dod i ben sy’n pennu pa mor hir maent yn aros yn eich porwr. Mae dwy ffordd o gael gwared ar gwcis: yn awtomatig, pan fyddant yn dod i ben, neu eu dileu eich hun. Rydyn ni wedi cynnwys rhagor o fanylion isod i’ch helpu i ddeall pa fathau o gwcis rydyn ni’n eu defnyddio.
Ydy’r wefan hon yn defnyddio cwcis?
Ydy, yn bennaf er mwyn sicrhau bod y wefan yn gweithio’n fwy effeithiol.
Pa fathau o gwcis rydych chi’n eu defnyddio a pham?
Rydyn ni’n defnyddio gwahanol fathau o gwcis am wahanol resymau:
Cwcis sesiwn – cwcis dros dro yw’r rhain sy’n dod i ben (ac yn cael eu dileu yn awtomatig) pryd bynnag y byddwch yn cau eich porwr. Rydyn ni’n defnyddio cwcis sesiwn i ganiatáu mynediad at gynnwys.
Rydyn ni’n defnyddio gwahanol fathau o gwcis am wahanol resymau:
Cwcis sesiwn – cwcis dros dro yw’r rhain sy’n dod i ben (ac yn cael eu dileu yn awtomatig) pryd bynnag y byddwch yn cau eich porwr. Rydyn ni’n defnyddio cwcis sesiwn i ganiatáu mynediad at gynnwys.
Cwcis parhaus – fel arfer mae gan y rhain ddyddiad dod i ben ymhell i’r dyfodol ac felly maent yn aros yn eich porwr nes byddant yn dod i ben, neu nes byddwch chi’n eu dileu eich hun. Rydyn ni’n defnyddio cwcis parhaus i ddeall patrymau pobl wrth ddefnyddio’r wefan yn well er mwyn gwella’r safle ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae’r wybodaeth hon yn ddienw – pan fyddwn yn edrych ar y data, mewn geiriau eraill, rydyn ni’n edrych ar batrymau, ond nid ydyn ni’n gweld gwybodaeth bersonol y mae modd adnabod unigolion gyda hi (PII).
Pa gwcis eraill y gallaf ddod ar eu traws ar y wefan hon?
Mae cwcis trydydd parti cyfyngedig ar y safle hefyd. Gallai’r cwcis hyn fod yn rhai sesiwn neu’n rhai parhaus ac maent yn cael eu gosod gan drydydd parti fel Google a Facebook. I wneud yn siŵr bod y defnyddiwr yn cael y profiad gorau, rydyn ni’n cyfyngu ar ddefnyddio cwcis trydydd parti i bartneriaid dibynadwy. Er enghraifft, ar hyn o bryd rydyn ni’n caniatáu:
Mewngofnodi a rhannu cymdeithasol – Pan fyddwch chi’n cofrestru neu’n mewngofnodi gyda manylion o rwydweithiau cymdeithasol fel Facebook neu Twitter, rydych chi’n eu hawdurdodi i storio cwci parhaus fydd yn eich cofio chi ac yn rhoi mynediad i chi i’n safle bob tro y byddwch chi’n ymweld ag ef nes bydd yn dod i ben. Gallwch ddileu’r cwci hwnnw (a thynnu’r mynediad mae’n ei ganiatáu yn ôl) drwy ddiweddaru eich dewisiadau gyda phob rhwydwaith cymdeithasol perthnasol. Felly os nad ydych chi eisiau gallu mewngofnodi drwy Facebook rhagor, bydd angen i chi ddiweddaru eich gosodiadau Facebook. Rydyn ni hefyd yn defnyddio addthis.com i hwyluso rhannu cymdeithasol, sy’n golygu bod yn rhaid i ni ddefnyddio cwcis sy’n cael eu rheoli gan addthis.com
Rheoli cynnwys – Rydyn ni’n defnyddio WordPress
Mesur a dilysu cynulleidfa – Rydyn ni’n defnyddio gwasanaethau fel Google Analytics i ddeall faint o bobl sy’n ymweld â’n safle a beth sy’n boblogaidd – mae hyn yn ein helpu ni i wella’r wefan. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol mae modd adnabod unigolion gyda hi (PII) yn cael ei storio a chaiff y defnydd o’r safle bob amser ei ystyried gyda’i gilydd (ac yn ddienw).
Pa fathau o gwcis nad ydych chi’n eu defnyddio?
Nid ydyn ni’n defnyddio cwcis ail-dargedu na chwcis fflach (sy’n cael eu galw weithiau yn wrthrychau a rennir yn lleol neu’n LSOs). Nid ydyn ni’n caniatáu i rwydweithiau hysbysebu trydydd parti ollwng cwcis ar ein safle er mwyn targedu hysbysebion at ymddygiad ein defnyddwyr ychwaith.
Ydych chi’n defnyddio’r hyn sy’n cael ei alw’n gwcis “ymwthiol”?
Nac ydyn. Nid ydyn ni’n defnyddio cwcis ail-dargedu na chwcis fflach nac unrhyw fath arall o gwci sy’n gallu dal gwybodaeth bersonol mae modd adnabod unigolion gyda hi (PII).
Ydych chi’n defnyddio cwcis i werthu gwybodaeth am gwsmeriaid?
Nac ydyn.
Sut y gallaf ddileu neu analluogi cwcis?
Os ydych chi eisiau dileu neu analluogi cwcis, ewch i: www.allaboutcookies.org/manage-cookies
A fydd y safle yn gweithio os byddaf yn analluogi cwcis?
Gallwch bori drwy’r safle hwn os byddwch wedi analluogi cwcis, ond efallai na fydd rhai elfennau rhyngweithio yn gweithio.
Pam mae’r faner gyda neges am gwcis yn esbonio beth ydynt yn dal i ymddangos?
Os byddwch chi’n cau’r faner a’i bod yn ymddangos eto y tro nesaf y byddwch yn ymweld â ni, mae’n debyg eich bod wedi analluogi cwcis. Rydyn ni’n defnyddio cwci parhaus i gofio eich bod wedi cau’r faner, ond dim ond pan fydd cwcis wedi cael eu galluogi ar ein safle y bydd hyn yn gweithio.
Dolenni
Dysgu mwy am gwcis:
Gwefan ICO
Cyfarwyddeb ar Breifatrwydd a Chyfathrebu Electronig
Mae rhagor o wybodaeth am sut mae annog neu rwystro cwcis ar amrywiol borwyr ar gael ar y wefan All about cookies.