Menter ledled y DU i hybu gwell ymddygiad a rheolaeth ar gŵn o amgylch da byw. Hon oedd y gynhadledd gyntaf gan ffurfio gweithgor i edrych ar ffyrdd o leihau ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid yn pori. Mae PONT wedi dod yn rhan o’r gweithgor a bydd yn mynychu digwyddiadau pellach i ymchwilio a chynllunio dulliau o wella ymddygiad cŵn a deall y problemau y gall cŵn eu hachosi.
Partneriaid y Prosiect
Sheepwatch UK, The Kennel Club, Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd y DU, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Defaid, PONT
Manteision Cymunedol
Bydd gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r perygl a’r difrod a achosir (yn annisgwyl yn aml) i dda byw gan gŵn yn galluogi’r cyhoedd i fynd â’u cŵn am dro’n gyfrifol yng nghefn gwlad. Bydd hyn yn gwella’r berthynas rhwng y cyhoedd sy’n mynd â’u cŵn am dro a pherchnogion tir, gan leihau nifer y cŵn sy’n cael eu dinistrio am boeni da byw.
Manteision Economaidd
Bydd llai o anafiadau i anifeiliaid, gan arwain at wella lles i dda byw a lleihau colli refeniw drwy anafiadau neu farwolaeth da byw.
Manteision Cyfoeth Naturiol
Byddai gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r perygl a’r difrod a achosir (yn annisgwyl yn aml) i dda byw gan gŵn o help i roi hyder i borwyr y bydd eu stoc yn ddiogel ar safleoedd cyhoeddus. Bydd hyn yn galluogi rheolaeth briodol ar bori ar dir bywyd gwyllt.