Un o amcanion y prosiect Cwlwm Seiriol yw rheoli a gwella ardaloedd o dir ar gyfer bywyd gwyllt, difyrrwch a mynediad o fod rhaid i ni gadw nifer y stalwyni ar y lefel cywir er mwyn sicrhau nad ydynt yn brwydro gyda'i gilydd nag yn poeni’r cesig.
Bydd yna drigolion newydd yn cyrraedd ardal prosiect Cwlwm Seiriol yn fuan: gre fach o ferlod Carneddau lledwyllt.
350 o ferlod Carneddau yn unig sydd ar y mynyddoedd, ac er nad ydynt yn cael eu cydnabod fel brîd prin, maent yn unigryw yn enetig i’r ferlen Mynydd Cymreig gan gario genynnau sy’n perthyn yn benodol i galedwch a gwrth-ddŵr, felly nid oes rhaid iddynt gael eu cadw o dan do dros y gaeaf, cyn belled â bod yna goed, waliau neu fryncynnau i’w cysgodi.
Porwyr ar dir comin Llanllechid oedd berchen ar y merlod hyn ac nid oeddent wedi cael eu trin cyn iddynt gael eu hel. Daethant oddi ar y mynydd ym mis Awst ac maent wedi cael eu cadw ar fy fferm i gael eu hysbaddu a chael eu trin yn ysgafn. Rwyf wedi bod yn “sibrwd wrth y merlod” gan ddefnyddio corlan fach, siap cylch er mwyn iddynt arfer gyda fi ac arfer gyda gwisgo ffrwyn. Mae’n dod yn haws i’w trin erbyn hyn felly mae posib eu dal, eu tywys i drelar a thocio eu traed os oes angen.
Y man cyntaf y byddant yn pori yw Dôl Leiniog ger Llangoed, mae angen cynnal gwaith atgyweirio ar y ffensys ac wedyn bydd yn barod i’r merlod dechrau ar eu gwaith – creu bylchau yn y tyfiant er mwyn galluogi mwy o rywogaethau i dyfu. Yn hwyrach, mae’n bosib y gallwn ffensio tir comin.
Llaniestyn gyda “ffens anweladwy” a fydd yn galluogi’r merlod, a fydd yn gwisgo coleri, i bori heb fynd ar y ffordd – gan eu cadw’n ddiogel gyda ffens drydan wedi ei chladdu. Mae’n bosib i berchnogion tir preifat gyfarfod gyda fi os maent eisiau rheoli eu tir drwy bori, gallwn benderfynu ar gynllun pori ac wedyn menthyg ffensiau trydan a defnyddio’r merlod i wella byd natur ar eu tir hwy.
Byddaf yn hyfforddi gwirfoddolwyr a fydd yn gwirio’r stoc er mwyn gofalu am y merlod o ran sicrhau eu bod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Bydd y cwrs hyfforddi LANTRA am ddim yn cael ei gynnal dros y gaeaf a byddaf yn trefnu amserlen ar gyfer y gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod yn gwirio’r stoc yn rheolaidd. Byddaf yn ymweld â’r merlod yn wythnosol hefyd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y cwrs hwn gofrestru drwy dudalen Facebook Cwlwm Seiriol, drwy anfon neges atom neu ein ffonio.
Nid oes gan y merlod enwau eto, felly byddai’n wych cael cynigion. Fel y gallwch weld, maent yn feirch golygus iawn.
Byddaf yn rhannu diweddariadau amdanynt ar dudalen Facebook Cwlwm Seiriol (@CwlwmSeiriol), neu galw Delyth Phillipps (07815 709240).