Mae PONT wedi datblygu cwrs hyfforddi undydd sy’n esbonio systemau ffermio, rheoli pori gan dda byw a sut i weithio gyda ffermwyr. Cafodd ei gyflwyno i grwpiau yn Ne Cymru yng Nghynffig ac yng Ngogledd Cymru ger Bethesda. Cafod cyfanswm o 56 o bobl eu hyfforddi dros gyfnod o 3 diwrnod.
Cynhaliwyd y cyrsiau yng ngwarchodfa natur Cynffig yn Ne Cymru ac yn Nhyddyn Isaf, ger Bethesda, yng Ngogledd Cymru.
Nod y cwrs oedd helpu aelodau’r gymuned gadwraeth i ddeall mwy am bori gan dda byw a’i reoli, rheolau a rheoliadau ffermio, a ffyrdd o siarad â ffermwyr am reoli tir a chynefinoedd.
• Rydym yn hyfforddi pobl i gyfathrebu â ffermwyr a thrafod rheolaeth gadwraeth effeithiol gan ddefnyddio da byw ar ffermydd.
• Mae’r cwrs yn cynnwys trafod telerau ffermio, incwm ffermydd a’r amser mae’n ei gymryd i wneud gwaith ymarferol penodol, fel profi am TB.
• Mae’n ceisio helpu gyda phontio’r bwlch rhwng y gymuned ffermio a gweithwyr cadwraeth proffesiynol.
Mae rhaglen y cwrs fel a ganlyn:
1. Telerau ffermio
2. Trosolwg o wahanol systemau ffermio
3. Blwyddyn ar y fferm
4. Taith o amgylch fferm gyda ffermwr llawn amser a thrafodaeth fanwl ar ei system
5. Sut mae anifeiliaid yn pori a’r manteision i gadwraeth
6. Cyllid – elw crynswth, incwm fferm a chostau gweithgareddau
7. Sgwrs gan Undeb Amaethwyr Cymru neu asiant tir am daliadau fferm sengl
8. Deddfwriaeth
9. Oriau yn y dydd
10. Trafodaeth agored gyda ffermwr
• Erbyn diwedd y cwrs, dylai’r cyfranogwyr fod wedi dod i ddeall ffermio a phori yn well, a deall y problemau a wynebir ar ffermydd da byw heddiw.
• Arweinir y cwrs gan hyfforddwr PONT sydd wedi’i achredu gan LANTRA.
Cafodd cinio o gynnyrch lleol a chynnyrch pori cadwraeth ei ddarparu, gan hybu’r cynnyrch lleol gwych sydd ar gael.
Partneriaid y Prosiect
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaethau Natur, Cynghorau Lleol, yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Butterfly Conservation, Unigolion ac Ymgynghorwyr Preifat
Manteision Cymunedol
Bydd gwella’r cyfathrebu rhwng gweithwyr cadwraeth proffesiynol a ffermwyr yn helpu i ddatrys gwrthdaro’r gorffennol rhwng y sectorau cadwraeth natur ac amaethyddiaeth. Bydd y gwaith hwn yn gwella’r ddealltwriaeth o reoli da byw, gan ddarparu pont rhwng y gymuned ffermio a’r gymuned nad yw’n ffermio. Bydd gwella’r rheolaeth ar dir drwy well cyfathrebu a dealltwriaeth yn galluogi cymunedau i gael mynediad i fwy o ardaloedd ac yn annog pobl i ddod i’r awyr agored.
Manteision Economaidd
Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i ffermwyr sy’n ymwneud â darparu hyfforddiant. Defnyddir cynnyrch lleol ar gyfer y cinio, er budd yr economi leol.
Manteision Cyfoeth Naturiol
Mae’r hyfforddiant hwn o fudd i gyfoeth naturiol drwy sicrhau rheolaeth barhaus ar dir sydd angen cael ei bori er mwyn hybu cynefinoedd iach a phoblogaethau o rywogaethau. Os yw gweithwyr cadwraeth proffesiynol yn deall yn well sut i weithio gyda ffermwyr, byddant yn cael mwy o lwyddiant wrth sicrhau pori a rheolaeth briodol ar dir.