Mae’r ffordd mae PONT yn gweithio yn newid:
Am y tair blynedd a hanner diwethaf, mae PONT wedi derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi golygu bod y staff wedi gallu darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i sicrhau pori cyfeillgar i fyd natur ar safleoedd amrywiol ledled Cymru yn rhad neu am ddim. Rydyn ni wedi gweithio gyda ffermwyr, porwyr, cymunedau a sefydliadau eraill er mwyn gweithredu rheolaeth ar dir a phori sy’n lleihau’r risg o dân, yn cefnogi mentrau bwyd lleol, yn gwerthfawrogi ein merlod brodorol, yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o dda byw, yn agor mynediad ac yn hybu rhywogaethau a chynefinoedd.
Yn yr amser hwnnw, rydyn ni wedi gwneud y canlynol:-
- Sicrhau pori newydd ar fwy na 185 o safleoedd, gan gynnwys safleoedd gwarchodedig a gwarchodfeydd natur, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain;
- Hyfforddi bron i 100 o bobl i fod yn archwilwyr stoc drwy gyflwyno cwrs Archwilwyr Stoc wedi’i achredu gan LANTRA;
- Datblygu a chyflwyno casgliad o gyrsiau hyfforddi proffesiynol PONT i fwy na 200 o bobl. Mae’r cyrsiau’n cynnwys Gweithio gyda ffermwyr, Defnyddio pori i reoli cynefinoedd, Pori cadwraeth, Rheoli cŵn yng nghefn gwlad ac Adeiladu ffensys atal stoc;
- Cynyddu nifer Cyfarwyddwyr PONT a chroesawu 3 ffermwr ar ein Bwrdd. Mae gan bobl eraill ddiddordeb mewn ymuno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.
- Trefnu a mynychu gormod o ddigwyddiadau i’w cyfrif. Yn y digwyddiadau rydyn ni wedi rhannu ein gwybodaeth, hybu bywyd gwyllt a da byw Cymru, ennyn diddordeb pobl mewn cefn gwlad a chynnig nwyddau PONT, te a choffi am ddim;
- Noddi Adran Gwartheg Brodorol Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru;
- Trefnu a chynnal ein hardal arddangos ein hunain yn Sioe Calon y Cwm;
- Trefnu a chynnal dwy gynhadledd hynod lwyddiannus gan ddod â ffermwyr a buddiannau amgylcheddol at ei gilydd;
- Cefnogi ymgyrch Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ‘Don’t Burn Bernie’, mewn ysgolion lleol drwy roi cyfle i blant ysgol gyfarfod ag ŵyn a’u bwydo a dysgu am sut gallant gael eu niweidio gan danau gwyllt;
- Hybu negeseuon am reolaeth gyfrifol ar gŵn yng nghefn gwlad a threialu ffyrdd newydd o weithio gyda pherchnogion cŵn, gan gynnwys abwydfa Baw Cŵn a osodwyd yn ei lle ar gomin Garn Goch a thrwy Sioeau Cŵn a gynhaliwyd mewn gwahanol leoliadau;
- Helpu i ddatblygu prosiectau niferus, gyda llawer ohonynt wedi mynd ymlaen yn llwyddiannus i sicrhau cyllid. Hefyd rydyn ni’n helpu i gyflwyno rhai o’r prosiectau hyn;
- Hybu’n gyson ein neges bod Pori yn Rhagori ac, o’i reoli’n briodol, y gall sicrhau manteision sylweddol i fyd natur ac i bobl.
Rydyn ni wedi mwynhau ein profiad yn fawr ac wedi cyfarfod llawer iawn o bobl ddiddorol ar hyd y daith. Yn anffodus, mae ein cyllid ni’n dod i ben ar 31 Mawrth ac, fel ymateb i hynny, rhaid i ni leihau oriau staff a dechrau codi ffi am ein gwasanaethau. Rydyn ni’n benderfynol o ddal ati a bydd PONT yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru ac yn gweithredu ardal yn sioe Calon y Cwm eto yn 2019, felly dewch i’n gweld ni yno. Byddwn yn gwneud ein gorau i weithio gyda phobl a cheisio sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei gynnig yn fforddiadwy, oherwydd rydyn ni i gyd yn angerddol am waith PONT.
Os hoffech chi drafod beth allwn ni ei wneud i chi, cysylltwch â ni ar e-bost neu ewch i’n gwefan ni www.pontcymru.org